Search
Close this search box.

Datganiad Polisi ar Breifatrwydd

Cyflwyniad i’r Datganiad hwn

Mae’r Datganiad Preifatrwydd dan sylw yn ymwneud â’r Wefan hon ynghyd ag unrhyw gymwysiadau neu ddyfeisiau meddalwedd sy’n gysylltiedig â hi.

Trwy ymweld â Gwefan y Gymdeithas Gofal, rydych yn derbyn ac yn cydsynio i’r arferion a ddisgrifir yn y Datganiad Polisi ar Breifatrwydd. Os na fyddwch yn cydsynio, peidiwch â chyflwyno unrhyw ddata personol i ni.

Dylech ddarllen y Datganiad hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y ffordd y byddwn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth. Mae amddiffyn eich diogelwch a’ch preifatrwydd yn bwysig i ni ac rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i ddiogelu’ch gwybodaeth a chynnal eich cyfrinachedd, yn unol â thelerau’r Ddeddf Diogelu Data. Diogelir y Wefan gan wahanol lefelau o dechnoleg diogelwch a ddyluniwyd i amddiffyn eich gwybodaeth rhag unrhyw fynediad, proses, colled ddamweiniol, dinistr a difrod sy’n anawdurdodedig neu’n anghyfreithlon.

Efallai y byddwn yn diweddaru’r Datganiad hwn o bryd i’w gilydd yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.

Amdanom ni  

Mae’r term “ni” yn cyfeirio at y Gymdeithas Gofal, sef perchennog y Wefan. Rydyn ni’n Elusen sydd wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (Rhif 1143732) ac rydyn ni’n Gwmni Cyfyngedig Trwy Warant sydd wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau (Rhif 07628816). Lleolwyd ein swyddfa gofrestredig yn 21 Ffordd y Môr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1NP. Mae’r term “chi” yn cyfeirio at yr unigolyn sy’n cyflwyno gwybodaeth i’r Wefan hon.

Deddf Diogelu Data

Byddwn yn prosesu’r holl wybodaeth bersonol a gasglwn gennych yn unol â Saith Egwyddor y Ddeddf Diogelu Data, nid yn unig oherwydd bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i wneud hynny ond oherwydd y credwn ei fod yn arfer busnes da sy’n helpu i ni adnabod ein cwsmeriaid ac amddiffyn eu gwybodaeth yn well.

Er mwyn cyflawni hynny, rydyn ni’n dilyn Saith Egwyddor y Ddeddf Diogelu Data sy’n mynnu bod y data:

    • yn cael ei brosesu’n gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw;
    • yn meddu ar ddibenion cyfyngedig;
    • yn ddigonol, yn berthnasol ac yn gyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol;
    • yn gywir ac yn gyfoes;
    • yn cael ei gadw’n hirach na’r angen
    • yn cael ei brosesu mewn modd sy’n unol â’ch hawliau;
    • yn gyfrifol am gydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data ac yn gallu dangos hynny.

Pa ddata personol ydyn ni’n ei gasglu? 

Gallwch roi gwybodaeth i ni amdanoch chi’ch hun trwy lenwi ffurflenni ymholi ar y Wefan, neu drwy ddefnyddio’r Wefan i ofyn inni anfon gwybodaeth atoch neu gysylltu â chi, ac ati.

Gall y wybodaeth a roddwch i ni gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad/lleoliad, rhif ffôn, manylion penodol, ac ati.  Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon tra byddwn yn gohebu â chi neu’n darparu gwasanaethau i chi neu i unigolyn yr ydych yn ei gynrychioli. Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon yn unol â’n Polisi Cadw.

Efallai y byddwn ni’n casglu’r wybodaeth ganlynol gennych wrth ichi ymweld â’r Wefan, postio sylwadau neu ddefnyddio ffurflenni cyswllt:

    • gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys Cyfeiriad IP (Protocol y Rhyngrwyd) a ddefnyddir i gysylltu cyfrifiaduron â’r Rhyngrwyd, gwybodaeth mewngofnodi, math a fersiwn y porwr, gosodiad parth amser, mathau o ategion pori, system weithredu a phlatfform; a
    • gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys y Lleolwyr Adnoddau Unffurf (URL), llif clicio’r Wefan wrth fynd iddi, drwyddi ac oddi wrthi (gan gynnwys dyddiad ac amser), gwallau’n ymwneud â’r Wefan, hyd yr ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithiad y tudalennau ac unrhyw rif ffôn a ddefnyddir i alw ein llinell gymorth.

Rydyn ni’n cadw’r wybodaeth hon yn unol ag Egwyddorion Diogelu Data a’n Polisi Cadw Nid ydym yn defnyddio’r wybodaeth a gyflwynir neu a gesglir at ddibenion marchnata                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                             Bydd ymholiadau e-bost a anfonir trwy’r Wefan yn mynd i [email protected] i’w dosbarthu i’r adran berthnasol. Byddwn hefyd yn monitro unrhyw negeseuon e-bost a anfonir atom, gan gynnwys ffeiliau atodol, ar gyfer feirysau neu feddalwedd faleisus.                                        

Efallai y byddwn yn monitro ac yn cofnodi cyfathrebiadau â chi (megis sgyrsiau ffôn ac e-byst) at ddibenion darparu gwasanaethau, sicrhau ansawdd, hyfforddi, atal twyll a chydymffurfio. Bydd unrhyw wybodaeth a gawn trwy fonitro a chyfathrebu o’r fath yn gyfrinachol.

Defnyddio Gwybodaeth

 Bydd y Gymdeithas Gofal yn defnyddio’r wybodaeth y bydd yn ei derbyn a/neu’i gasglu amdanoch i:

    • gyflawni ein rhwymedigaethau o dan unrhyw gontract yr ydym wedi ymrwymo iddo gyda chi neu’r unigolyn yr ydych yn ei gynrychioli, ac i ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau i chi neu’r unigolyn perthnasol yn unol â’ch cais;
    • anfon gwybodaeth atoch os ydych wedi gofyn neu wedi caniatáu inni wneud hynny;
    • rhoi gwybod i chi am gynhyrchion a gwasanaethau y teimlwn y gallai fod o ddiddordeb i chi;
    • monitro’r defnydd o’r Wefan (er enghraifft, defnyddio Google Analytics) a darparu ystadegau i drydydd partïon at ddibenion gwella a datblygu’r Wefan a’r gwasanaethau a ddarparwn drwyddi.

                                                                                                                                                                                                                                                                                      Rydyn ni’n prosesu gwybodaeth bersonol at rai dibenion busnes cyfreithlon, sy’n cynnwys rhai neu bob un o’r canlynol:

    • hyrwyddo, addasu, personoli neu wella’r Wefan o ran ei gwasanaethau neu’i chyfathrebiadau; canfod ac atal twyll;
    • cynyddu diogelwch y rhwydwaith a’r systemau gwybodaeth;
    • cynyddu diogelwch y rhwydwaith a’r systemau gwybodaeth;
    • gwella ein dealltwriaeth o’r modd y mae pobl yn rhyngweithio â’r Wefan;
    • pennu effeithiolrwydd yr ymgyrchoedd hyrwyddo.

 

Defnyddio Cwcis

Rydyn ni’n defnyddio cwcis i sicrhau ein bod ni’n cynnig y profiad gorau i chi ar ein Gwefan. Fe’u defnyddir i wahaniaethu ein defnyddwyr oddi wrth ei gilydd, i gasglu gwybodaeth safonol am log y rhyngrwyd a manylion am ymddygiad ymwelwyr. Efallai y bydd ein meddalwedd yn dosbarthu “cwcis” (ffeiliau testun bach) i’ch dyfais wrth ichi gyrchu a defnyddio’r system, a gofynnir ichi gydsynio i hyn ar y pryd (e.e. pan ymwelwch â’n Gwefan am y tro cyntaf). Nid yw cwcis yn effeithio ar eich preifatrwydd na’ch diogelwch gan na all cwci ddarllen data oddi ar eich system na darllen ffeiliau cwci a grëwyd gan wefannau eraill. Mae modd ichi addasu’ch system i wrthod cwcis (er enghraifft, trwy newid gosodiadau eich porwr). Fodd bynnag, dylech nodi ei fod yn bosibl na fydd rhai o nodweddion ein system yn gweithredu os gwnewch chi dynnu cwcis o’ch system. I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol am gwcis, ewch i www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org. or www.allaboutcookies.org.                                                                                                                                                                                                                                                                                     Cynnwys wedi'i fewnblannu o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y Wefan hon gynnwys mewnosodiadau (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys mewnblanedig o wefannau eraill yn ymddwyn yn gymwys yr un fath â phe baech yn ymweld â’r Wefan arall. Efallai y bydd y gwefannau hyn yn casglu data amdanoch chi, yn defnyddio cwcis, yn ymgorffori tracio ychwanegol gan drydydd parti, ac yn monitro’ch rhyngweithiad â’r cynnwys a fewnblannwyd. Gall hefyd dracio’ch rhyngweithiad â’r cynnwys os oes gennych gyfrif ac wedi mewngofnodi i’r wefan honno.

Eich Hawliau

Os ydych chi’n unigolyn, mae’r adran hon yn nodi’ch hawliau cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw ran o’ch Data Personol yr ydym yn ei ddal a/neu’n ei brosesu. Os ydych am arfer unrhyw un o’ch hawliau cyfreithiol, dylech gyflwyno’ch cais yn ysgrifenedig atom gan roi digon o wybodaeth inni i’ch adnabod chi ac ymateb i’ch cais.

Mae gennych yr hawl (yn amodol ar dalu ffi fach mewn rhai achosion) i ofyn am wybodaeth ynghylch y Data Personol y gallwn ei dal a/neu ei phrosesu amdanoch chi, gan gynnwys: p’un a ydym yn dal a/neu’n prosesu’ch Data Personol neu beidio; maint y Data Personol yr ydym yn ei ddal; a dibenion a maint y prosesu.

Mae gennych yr hawl i gywiro a/neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch chi. Os oes angen newid unrhyw ran o’r wybodaeth hon neu os dewch yn ymwybodol o unrhyw wallau ynddi, rhowch wybod i ni’n ysgrifenedig gan nodi’r newid, y cywiriad neu’r diweddariad sy’n ofynnol.

Mae gennych yr hawl mewn rhai amgylchiadau i ofyn inni ddileu’r holl Ddata Personol sydd gennym amdanoch chi (yr “hawl i ddileu”). Sylwch nad yw’r hawl hon i ddileu ar gael ym mhob amgylchiad; er enghraifft, lle mae angen i ni gadw’r Data Personol at ddibenion cydymffurfiad cyfreithiol. Os dyna’r achos, fe rown wybod i chi.

Mae gennych yr hawl mewn rhai amgylchiadau i ofyn inni gyfyngu ar y dasg o brosesu’ch Data Personol; er enghraifft, pan fo’r Data Personol yn anghywir neu pan eich bod wedi mynegi gwrthwynebiad i’r prosesu.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r Data Personol sydd gennym amdanoch chi a’i ddarparu mewn fformat strwythuredig sy’n addas i’w drosglwyddo. Sylwch fod yr hawl i gludadwyedd data ar gael mewn rhai amgylchiadau yn unig. Os gofynnwch am yr hawl i gludadwyedd data ac nad yw ar gael i chi, fe rown wybod i chi.

Pan fyddwn yn prosesu’ch Data Personol, mae gennych yr hawl, yn seiliedig ar eich sefyllfa benodol, i’w wrthwynebu. Os felly, byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu’ch Data Personol oni bai y gallwn ddangos seiliau dilys, digonol a grymus dros barhau â’r prosesu, sy’n drech na’ch buddiannau chi.

Gwefannau Trydydd Parti

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd yn ymdrin â’r dolenni mewnol sy’n cysylltu’r safle hwn â gwefannau eraill. Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys, cynnyrch a/neu wasanaethau’r gwefannau cysylltiedig. Sicrhewch eich bod yn adolygu’r holl delerau a’r amodau sydd ynghlwm wrth Ddefnydd a Pholisi Preifatrwydd unrhyw wefannau trydydd parti cyn eu defnyddio, a chyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol iddynt.

Hygyrchedd

Nod y Polisi hwn yw darparu’r holl fanylion perthnasol i chi ynglŷn â’r modd yr ydym yn prosesu’ch gwybodaeth ar ffurf gryno, dryloyw a dealladwy, gan ddefnyddio iaith glir a phlaen. Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i ddarllen neu ddeall y Polisi hwn, neu os hoffech chi’r Polisi hwn mewn fformat arall (er enghraifft print bras, ac ati), mae croeso ichi gysylltu â ni.

Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd

Rydyn ni’n cadw’r Polisi hwn dan adolygiad rheolaidd a gallwn ei newid o bryd i’w gilydd. Os byddwn yn newid y Polisi, byddwn yn postio’r newidiadau ar y dudalen hon, ac yn gosod hysbysiadau ar dudalennau eraill y Wefan fel y bo’n berthnasol, er mwyn ichi fod yn ymwybodol bob amser o’r wybodaeth a gasglwn a’r modd y’i defnyddir.

Manylion Cyswllt

Os hoffech chi wneud cais am wybodaeth ynghylch ein Polisi Preifatrwydd, gallwch:

Y Gymdeithas Gofal

21 Ffordd y Môr

Aberystwyth,

Ceredigion

SY23 1NP

[email protected]

 

 

cyCymraeg