Cymdeithas Gofal
The Care Society

Mae ein gwasanaethau tai, digartrefedd a chymorth yn cynnig gwelliannau go iawn sy'n effeithio ar fywydau pobl mewn modd ymarferol ac uniongyrchol.

Ein Ffocws

Mae’r Gymdeithas Gofal yn elusen a chwmni cofrestredig cyfyngedig trwy warant, ac mae’n darparu gwasanaethau tai, digartrefedd a chymorth ledled Canolbarth Cymru. Rydyn ni’n sefydliad blaengar sy’n cynnig gwasanaethau hanfodol ar hyd a lled cefn gwlad Cymru, gan helpu i wella ansawdd bywyd pobl a mynd i’r afael â nifer cynyddol o broblemau cymdeithasol. Gyda Bwrdd, Rheolwyr a Staff profiadol, mae gennym y fenter a’r awydd i gario’r sefydliad yn ei flaen ac i ddatblygu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion newidiol y bobl fregus yn ein cymuned 

Ein Cenhadaeth

Trwy ystyried y strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a thrwy nodi’r bylchau yn narpariaeth y gwasanaethau lleol, rydyn ni wedi datblygu mentrau newydd fel y gallwn ni barhau i gynnig ystod amrywiol a chynyddol o wasanaethau. Mae ein Datganiad Cenhadaeth yn cwmpasu tri amcan:

Elusen Cofrestredig 1143732

cyCymraeg