Search
Close this search box.

Cyfleoedd gwirfoddoli

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd gwaith cyfeillgar, cyfleoedd i hyfforddi a datblygu, ynghyd â’r siawns i gwrdd â phobl newydd a dysgu mwy am y materion sy’n effeithio ar y rhai y byddwn yn eu helpu. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ein holl wirfoddolwyr yn ogystal â’r amser a roddant i’r Gymdeithas Gofal – boed hi’n 1 awr, 10 awr neu fwy. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn ein helpu ni i hyrwyddo’r Gymdeithas Gofal ac yn gwneud gwaith gwerthfawr yn y gymuned.
Gallwn ni gynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli i gyd-fynd â’r diddordebau, y sgiliau penodol, a’r amser sydd ar gael.
Mae ein gweithgareddau gwirfoddoli yn cael eu cydlynu o’n swyddfeydd yn Aberystwyth ac Aberteifi ac yn cynnwys:
 
Gweithiwr Siop Elusen Gwirfoddol
Sy’n cynorthwyo Staff ein Siop Elusen i gynhyrchu incwm a chefnogaeth hirdymor gan roddwyr a chwsmeriaid.

                                        Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn ac yn gwerthfawrogi unrhyw waith a wirfoddolwyd gan bobl sy’n cynnig ein helpu ni yn eu hamser hamdden. Gall hyn fod yn unrhyw beth: addurno, plastro, atgyweirio, garddio ac unrhyw fân dasgau eraill ar draws ein gwasanaethau.

SUT I WNEUD CAIS 
Os hoffech chi ddarganfod mwy am ein cyfleoedd gwirfoddoli neu gynnig unrhyw syniadau neu awgrymiadau ar sut y gallech chi gyfrannu at ein gwaith fel gwirfoddolwr, mae croeso ichi lenwi’r ffurflen gyswllt oddi tanodd neu roi caniad inni ar y rhif isod, ac fe ddown i gysylltiad â chi.
cyCymraeg