Cynllun Llety Dros Dro
Er 2005, mae’r Gymdeithas Gofal wedi rheoli unedau llety dros dro ledled Ceredigion ar ran yr Awdurdod Lleol. Mae’r Prosiect hwn yn cyflawni Amcanion Tai Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer atal digartrefedd (fel y’u manylir yn Neddf Tai 2014) ac o ganlyniad, mae’n ffurfio rhan sylfaenol o Strategaeth Tai'r Awdurdod Lleol.
Pwy all gyrchu’r Cynllun?
Mae pobl sy’n cyrchu’r gwasanaeth yn cael eu cyfeirio ato gan Dîm Tai’r Awdurdod Lleol a fydd yn asesu a ydych yn gymwys i gael cymorth. Os canfyddant eich bod, byddant yn eich cyfeirio at Gynllun Llety Dros Dro'r Gymdeithas Gofal. Yn gyffredinol, bydd hyn yn digwydd ar ôl cyfweliad cychwynnol gyda’r Cyngor, lle bydd rhaid i chi fodloni’r “statws angen blaenoriaethol” neu lle mae’r “statws angen blaenoriaethol” yn destun ymchwiliad, neu os cewch eich cyfeirio o dan bŵer statudol. O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae “angen blaenoriaethol” yn golygu unigolion sydd:
- yn feichiog
- yn agored i niwed, h.y. cyflwr meddygol, ac ati
- yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref
- yn dioddef cam-drin domestig
- yn 16 neu 17 oed
- yn 18 i 21 oed ond mewn perygl o gael eu cam-fanteisio’n rhywiol neu’n ariannol
- yn Blant sy’n Derbyn Gofal/Ymadawyr Gofal o dan 21 oed
- yn ddigartref ers gadael y lluoedd arfog
- yn meddu ar gysylltiad lleol ac yn agored i niwed oherwydd gadael carchar/ dalfa/remánd
Deddf Tai (Cymru) 2014
Mae’r Cynllun Llety Dros Dro yn canolbwyntio ar geisio atebion er budd y gymuned ac ar leddfu, i raddau, y straen a roddir ar Adran Tai’r Awdurdod Lleol wrth gyflawni’i rhwymedigaethau i ddarparu llety addas i bobl mewn angen. Mae rhwymedigaethau statudol yr Awdurdod Lleol yn ôl Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn cynnwys:
- Adran 73 a 75 - Dyletswydd i sicrhau llety i geiswyr sy’n ddigartref, sef prif amcan y Prosiect Llety Dros Dro.
- Adran 59 - Llety addas a fforddiadwy. Mae’r Gymdeithas Gofal yn darparu llety rheoledig ac yn gweithio gyda’r Awdurdod Lleol i gynnal safonau a sicrhau lleoliadau priodol.
- Adran 60 - darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth gydag anghenion tai. Mae hyn yn cynnwys mynediad at holl wasanaethau cymorth y Gymdeithas Gofal ac opsiynau ailsefydlu.
- Adran 64 a 65 - darparu cymorth i sicrhau llety. Gall yr Awdurdod Lleol ddarparu hyn ynghyd â mynediad i’r sector rhentu preifat, er enghraifft Cynllun Gosod Tai Cymdeithasol y Gymdeithas Gofal.
- Adran 68 – Dyletswydd interim i sicrhau llety i geiswyr sy’n ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol.
Mae’r Gymdeithas Gofal wedi hyfforddi staff i weithredu fel wardeniaid ar gyfer y prosiect ac maent ar gael 24 awr y dydd.
Gall fod yn dŷ, yn fflat neu’n ystafell mewn tŷ a rennir ac mae ar gael i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a/neu bobl anabl
Dyma rai o’r gwasanaethau eraill sydd ar gael i bobl mewn llety dros dro:
- Gweithiwr cymorth tenantiaeth i’ch helpu i godi’n ôl ar eich traed ac i fyw mor annibynnol â phosib. Gallant helpu gyda chymorth tai a budd-daliadau lles (gweler Gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth).
- Cyfeirio at asiantaethau arbenigol eraill, e.e. gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gwasanaethau iechyd meddwl ac ati.
- Symud ymlaen o opsiynau llety dros dro trwy Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol y Gymdeithas Gofal (gweler Gwasanaethau Gosod Tai Cymdeithasol).
- Cynllun Bond i sicrhau tenantiaethau yn y dyfodol (gweler Cynllun Bond).
- Mynediad i fwyd a banciau bwyd.