Search
Close this search box.

Anthony Hearn

Cadeirydd y Bwrdd / Chairman of the Board

Anthony Hearn

Ar hyn o bryd, mae Anthony yn Gyfarwyddwr Tai a Chymunedau ar gyfer Cartrefi Cymoedd Merthyr, ac mae wedi gweithio a gwirfoddoli ym maes tai, tai â chymorth, a sefydliadau datblygu ieuenctid a chymunedol, am dros 30 mlynedd. Mae’n angerddol am weithio gyda phobl a chymunedau i’w helpu i ffynnu a llwyddo, yn gefnogwr mawr i economïau sylfaenol a grym trawsnewidiol yr economi gymdeithasol, ac yn ddadleuwr brwd o blaid cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Peter Saunders

Aelod Annibynnol o'r Bwrdd / Independent board member

Peter Saunders

• Cadeirydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol • Cefndir ym maes cynllunio tref, ymchwilio a darlithio mewn prifysgol • Cyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl • Diddordeb gweithredol mewn gofal cymdeithasol a thai gofal ychwanegol • Ei nod yw helpu Tai Ceredigion i ddatblygu gwasanaethau sy’n adlewyrchu anghenion penodol y Canolbarth • Dysgwr Cymraeg brwd

Catherine Shaw

Aelod Tenant o'r Bwrdd / Tenant Board member

Catherine Shaw

Mae Catherine yn gyn-fyfyriwr ieithoedd modern ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd hi’n Aelod o’r Grŵp Llywio Tenantiaid tra oedd Tai Ceredigion yn cael ei ffurfio. Mae’n Gyn-Aelod o Grŵp Monitro Tai Ceredigion ac am gryn amser bu’n Ysgrifennydd Cofnodion ar ei gyfer. Mae wedi bod yn Aelod o Fwrdd Tai Ceredigion oddi ar fis Rhagfyr 2015 ac yn Aelod o Fwrdd y Gymdeithas Gofal oddi ar fis Ebrill 2018. Ei nod yw sicrhau bod tenantiaid yn cael eu hystyried ym mhob un o benderfyniadau’r Bwrdd, a helpu’r Gymdeithas Gofal i barhau i ddatblygu, gan roi cymorth i bobl fregus wrth galon ei weithgareddau.

Stephen Cripps

Aelod Annibynnol Cyfetholedig o'r Bwrdd / Independent Board co-optee

Stephen Cripps

Cyn-Gadeirydd ac Is-Gadeirydd presennol Tai Ceredigion • Cyn-Brif Swyddog llywodraeth leol gyda 30 mlynedd o brofiad gan gynnwys Rheoli Tai • Cymrawd y Sefydliad Tai Siartredig • Cyn-Aelod Annibynnol (ac Is-Gadeirydd) Pwyllgor Moeseg a Safonau Cyngor Sir Ceredigion • Cyn-Aelod Bwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru • Aelod Cyfetholedig o’r Bwrdd oddi ar fis Mawrth 2016 • Ei nod yw cynorthwyo Tai Ceredigion i ddarparu tai gweddus, fforddiadwy a threfnus sy’n hanfodol i gynnal iechyd da, addysg a chyflogaeth, ac yn gymorth i adeiladu a chefnogi cymunedau lleol cryf. Mae wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill er budd y cymunedau lleol.

John Rees

Is-Gadeirydd y Gymndeithas Gofal / Vice-Chair of the Care Society

John Rees

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Pherfformiad. Cyfrifydd Ardystiedig Siartredig gyda thros 14 blynedd o brofiad mewn rolau amrywiol gan gynnwys 7 o fewn y Sector Tai Cymdeithasol. Pennaeth Cyllid presennol Plymouth Community Homes. Mae ganddo gysylltiadau â chymuned leol Ceredigion ac mae’n dysgu siarad Cymraeg.

Margaret Gallagher

Aelod Annibynnol Cyfetholedig o'r Bwrdd / Independent Board co-optee

Margaret Gallagher

Mae Margaret yn Awstraliad sydd wedi byw yn y DU am 26 blynedd, 18 ohonyn nhw yng Ngheredigion. Mae ganddi BSc ac MA mewn Seicoleg o Brifysgol Sydney. Yn Awstralia a’r DU, bu’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd am dros 20 mlynedd, yn y sectorau statudol a gwirfoddol, gan ddatblygu a darparu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thai a chymorth uniongyrchol i oedolion a theuluoedd. Mae wedi gweithio ar bob lefel - o ddelio â materion strategol a rheolaethol i ddarparu gwasanaethau ar y rheng flaen. Hi oedd Rheolwr Cefnogi Pobl wreiddiol Cyngor Sir Ceredigion a hi wnaeth hwyluso’r dasg o sefydlu’r fenter yn y Sir. Ar ôl ei hymddeoliad, ymgymerodd â nifer o gyrsiau yn y celfyddydau gweledol, yn ogystal â therapïau amgen, ac mae hi newydd gwblhau MA mewn Gwareiddiadau Hynafol yn PCYDDS Llanbedr Pont Steffan. Mae hi’n angerddol am ddysgu ac mae ganddi lyfrgell helaeth sy’n ehangu’n gyson. A hithau bellach wedi cwblhau ei hastudiaethau ffurfiol, mae’n edrych ymlaen at ddod â’i phrofiad a’i brwdfrydedd i’w rôl fel Aelod Annibynnol o Fwrdd y Gymdeithas Gofal ac fel Ymddiriedolwr yng Nghanolfan Blant Jig-So yn Aberteifi.
cyCymraeg