ADVICE & INFORMATION/CRISIS SUPPORT 0300 140 0025
Yma yn y Gymdeithas Gofal, rydyn ni’n gwerthfawrogi y gall amgylchiadau pobl newid mewn amrantiad ac y gall unrhyw un gael ei hun yn ddigartref am sawl rheswm.
Ar yr adegau hynny pan fydd angen rhywfaint o help arnoch yn ddi-oed, neu pan fydd bywyd yn eich llethu, rydyn ni’n cynnig gwasanaeth cyngor a gwybodaeth, sydd wedi’i leoli yn ein swyddfa yn 21 Ffordd y Môr, Aberystwyth. Mae ein Gweithiwr Cymorth Argyfwng ar gael i unrhyw un sydd am ddefnyddio ein gwasanaethau – am un tro yn unig neu am gyfnod mwy hirdymor. A does dim ots os ydych chi’n un o ddefnyddwyr presennol ein gwasanaeth neu beidio - mae’r drws bob amser ar agor.
Gallwch chi gael cymorth gyda:
- Llenwi ffurflenni
- Budd-daliadau Lles
- Cyllidebu
- Ffurflenni PIP
- Cyfeirio
- Cyfleustodau, h.y. nwy, trydan, ac ati
- Symud
- Nwyddau cartref
- Materion yn ymwneud â thenantiaeth
- Ôl-ddyledion
- Incwm isel
- Materion cyfreithiol
- Cofrestr Tai MOT
Hefyd, unrhyw beth arall y gallai fod o gymorth i chi. Gadewch i ni fod y pwynt cyntaf yn yr ymdrech i’ch cael chi’n ôl ar y trywydd iawn.
Os oes angen help arnoch y tu allan i oriau a’ch bod ddim yn gwybod lle i droi, dilynwch y cyngor isod:
Os nad ydych chi’n teimlo y gallwch chi gadw’ch hun yn ddiogel ar hyn o bryd, gofynnwch am gymorth ar unwaith trwy:
- fynd i unrhyw Adran Damweiniau ac Achosion Brys;
- ffonio 999 a gofyn am ambiwlans i fynd â chi i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys;
- gofyn i rywun arall ffonio 999 ar eich rhan neu fynd â chi i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Os oes angen cefnogaeth frys arnoch heb orfod mynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, fe allech chi:
- ffonio’r Samariaid ar radffôn 116 123 - maen nhw bob amser ar agor ac yno i wrando
- cysylltu â’ch meddygfa a gofyn am apwyntiad brys
- cysylltu â GIG Lloegr (111) neu Galw Iechyd Cymru (0845 46 47)
Llenwch y ffurflen ymholiadau isod os hoffech i’n Gweithiwr Cymorth gysylltu â chi ac fe ddown ni’n ôl atoch gyn gynted â phosibl.