Search
Close this search box.

Gwybodaeth i Landlordiaid

Swyddfa Aberystwyth

A oes gennych chi eiddo yr hoffech ei rentu allan?

         Rydyn ni’n chwilio am eiddo hunangynhwysol – fflatiau un ystafell, stiwdios, fflatiau ag un neu ddwy ystafell wely, a thai.

Gallwn ni sicrhau nifer isel o unedau gwag oherwydd y llif cyson o ddarpar denantiaid a’n gwasanaeth rheoli eiddo sy’n bwrpasol ac yn gystadleuol iawn.

Swyddfa Aberteifi

Croeso i Wasanaeth Rheoli Eiddo Pwrpasol y Gymdeithas Gofal

Rydyn ni’n ymdrin yn broffesiynol â phob agwedd ar reoli’ch eiddo o ddydd i ddydd, ac yn cynnig Gwasanaeth Rheoli Eiddo Pwrpasol a all gynnwys:
  • Cyngor ynghylch y farchnad rentu leol a’r incwm rhent posibl ar gyfer eich eiddo
  • Gwerthuso cyflwr yr eiddo a chyngor ar baratoi’ch eiddo i’w rentu
  • Ffotograffau o gynnwys llawn yr eiddo ac adroddiad ynghylch ei gyflwr
  • Materion cydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch
  • Hysbysebu a marchnata
  • Trefnu ymweliadau
  • Gwirio gyda’r darpar denantiaid eu gallu i fforddio’r eiddo
  • Paratoi Cytundebau Tenantiaeth a gwaith papur
  • Casglu Blaendal Tenantiaeth i Gynllun priodol
  • Bond Yswiriant os yn gymwys
  • Casglu rhent a thalu’n brydlon bob mis i berchnogion trwy Drosglwyddiad Banc gan ddarparu datganiad rhent/eiddo manwl
  • Gwirio cyfrifon rhent y tenantiaid bob wythnos, gwirio eiddo amlfeddiannaeth bob wythnos a gwirio mathau eraill o eiddo yn rheolaidd
  • Cymryd camau i adennill taliadau hwyr
  • Rheoli materion yn ymwneud â diwedd tenantiaeth gan gynnwys blaendaliadau
  • Rheoli materion cynnal a chadw – gan gynnwys asesiadau a dyfynbrisiau ar gyfer atgyweiriadau, mynediad i gontractwyr, ac ati.
  • Gweithredu fel Deiliad Allwedd a darparu Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

Dewch i gysylltiad os hoffech inni reoli’ch eiddo neu os hoffech chi drafod unrhyw agweddau o’n gwasanaeth rheoli eiddo. Llenwch y ffurflen isod a gwasgwch “anfon”, neu os hoffech chi alw heibio un o’n swyddfeydd neu ein ffonio, dyma’r manylion cyswllt:

North County Office at 21 Terrace Road, Aberystwyth SY23 1NP –  telephone 01970 597114
South County Office at Greystones, Priory Street, Cardigan, SA43 1BZ – telephone 01970 597117
cyCymraeg