Search
Close this search box.

Canolfan Asesu Brys

Mae gan y Gymdeithas Gofal flynyddoedd o brofiad mewn cyflawni prosiectau digartrefedd. Yn ogystal â darparu ar gyfer pobl sy’n cysgu allan bryd bynnag y gallwn, rydyn ni’n sylweddoli pwysigrwydd y cymorth a’r gefnogaeth y gallwn eu cynnig iddynt a thrwy hynny, eu helpu i symud ymlaen â’u bywydau, gan ddod yn denantiaid annibynnol ac yn aelodau gwerthfawr o’r gymuned. Dangoswyd bod y Ganolfan Asesu Brys hon – y ‘Lloches Nos’ - yn lleihau digartrefedd yn effeithiol ar hyd a lled Canolbarth Cymru ac yn gwella bywydau’r bobl yr ydym yn eu lletya. 
Mae’r Prosiect yn gweithredu fel dewis olaf mewn sawl achos. Mae modd darparu llety dros dro i bobl ddigartref sydd ddim yn flaenoriaeth am ryw reswm neu’i gilydd, ac sydd ddim yn syrthio dan ddyletswydd yr Awdurdod Lleol i’w cartrefu [o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014]. Drwy hynny, gellir eu cadw oddi ar y strydoedd a’u cyflwyno i’r cymorth y gallai fod ei angen arnynt i newid eu bywydau.
Dyma rai o nodweddion y Prosiect
    • Mae hwn yn wasanaeth a ddarperir ledled y sir. Mae’r prif letyau wedi’u lleoli yn Aberystwyth ond mae’r prosiect o reidrwydd yn hyblyg yn yr ystyr y gellir lletya pobl ddigartref ar hyd a lled y sir mewn gwahanol fathau o lety, gan sicrhau eu bod ar gael i fwy o ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u bod yn fwy addas ar gyfer amgylchedd gwledig. 
    • Mynediad 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn. Gall y digartref wneud cais am lety unrhyw adeg o’r dydd a’r nos ac, ar ôl iddynt gael eu lletya, nid ydynt wedi’u cyfyngu i un noson. Rydyn ni’n rhoi pwyslais ar flaenoriaethau tymor hwy er mwyn i ddefnyddwyr y gwasanaeth gael mwy o sefydlogrwydd a chyfle i ganfod a delio â phroblemau penodol yn ystod y cyfnod estynedig hwnnw.
    • Neilltuir Gweithiwr Cymorth pwrpasol ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth wrth iddynt ymuno â’r prosiect, neu fe gânt eu cyfeirio at gefnogaeth a chyngor ynghylch eu hargyfwng trwy’r Tîm Cymorth.
    • Ymdrinnir ag ailsefydlu trwy weithio ochr yn ochr â Chynlluniau Gosod Tai Cymdeithasol a Bondiau’r Gymdeithas Gofal, gan anelu i ddod o hyd i lety addas a chynaliadwy yn y dyfodol. Bydd y darpar denantiaid hyn yn cael eu cefnogi gyda’u tenantiaethau ac yn cael y sgiliau i’w cynnal.
    • Cyflwynir rhaglen o weithgareddau i hyrwyddo cynhwysiant, magu hyder, cymdeithasu ac ati fel cam tuag at ymgysylltu ag ailsefydlu.
    • Gwasanaeth cyfeirio at asiantaethau penodol er mwyn mynd i’r afael ag anghenion penodol, e.e. camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl ac ati.
    • Mae’r Prosiect wedi’i staffio gan Weithwyr cymwys sydd wedi’u hyfforddi’n llawn ac maent ar gael drwy gydol y dydd a’r nos. Mae gan holl staff y Prosiect brofiad profedig o ddelio â gofynion y cleientiaid eang ac amrywiol sy’n defnyddio’r gwasanaeth.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                     
Sut mae cyrchu’r Prosiect?
Trwy gysylltu â’r Gymdeithas Gofal neu gyflwyno cais i Adran Tai’r Awdurdod Lleol.
Pa mor hir y gallaf fi barhau’n rhan o’r Prosiect?
Nid oes cyfyngiad penodol ar hyd yr arhosiad er ei fod yn tueddu i fod yn opsiwn byrdymor tra ceisir llety hirdymor mwy sefydlog a phriodol.
A oes rhestr aros?
Nac oes. Dydyn ni ddim yn gweithredu rhestr aros: rydyn ni’n anelu at ddarparu lloches ar unwaith i unrhyw un sy’n ceisio cymorth. Ar yr adegau na allwn ni ddarparu llety ar unwaith, rydyn ni’n dosbarthu bagiau cysgu/blancedi pan fyddant ar gael.

Cyflwyno rhodd i’r Prosiectau Digartrefedd: 

Mae’r Gymdeithas Gofal bob amser yn ddiolchgar am roddion, e.e. bwyd, gwelyau a dillad gwely, taclau ymolch, dodrefn, ac ati. Os gallwch chi helpu mewn unrhyw ffordd, defnyddiwch y botwm RHODDI ar y dudalen gartref neu cysylltwch â:

Rheolwr Llety Brys a Llety â Chymorth
Telephone no. 01970 597113/597121
cyCymraeg