Pecynnau Gofal Pwrpasol

Mae’r Gymdeithas Gofal yn darparu contractau ar gyfer Pecynnau Gofal Pwrpasol i unigolion ledled Ceredigion. Pwrpas y contractau hyn yw gwella deilliannau a llesiant pobl ag anghenion gofal a chymorth penodol. Rydyn ni’n darparu gwasanaeth un i un (neu ddau weithiwr cymorth i un defnyddiwr gwasanaeth lle mae amgylchiadau’n gofyn am hynny) ac yn rhoi cefnogaeth i bobl ag:

  • anawsterau dysgu;
  • awtistiaeth;
  • problemau iechyd meddwl;
  • materion yn ymwneud â’r corff a symudedd;
  • henaint a llesgedd.
 

Mae’r rhestr ganlynol yn rhoi manylion am y bobl sy’n cael eu cefnogi trwy Becynnau Gofal Pwrpasol y Gymdeithas Gofal. Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw eu bod yn fregus oherwydd amgylchiadau neu gyflyrau. Er nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr ac efallai y bydd rhai grwpiau’n gorgyffwrdd, mae’n rhoi syniad realistig ichi o’r ystod eang o bobl y gall y Gymdeithas Gofal ddarparu cefnogaeth iddynt:

  • unigolion sy’n meddu ar broblemau cymhleth a ddaw yn sgil ynysu cymdeithasol a achosir gan chwalfa sydyn neu ddirywiad yn eu hamgylchiadau personol – byddai’r rhain yn cynnwys yr henoed, yr eiddil neu’r methedig;
  • unigolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain heb fawr neu ddim rhwydwaith cymorth cymdeithasol;
  • unigolion sy’n meddu ar unigrwydd fel “angen adnabyddadwy”;
  • unigolion sydd â rhwydwaith cymorth, ond oherwydd problemau iechyd corfforol neu feddyliol, maen nhw wedi’u hynysu’n gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu fel awtistiaeth, a phobl sydd â salwch cronig;
  • unigolion sy’n mwynhau ychydig o ryngweithio cymdeithasol gan eu gofalwyr, glanhawyr, darparwyr prydau bwyd a darparwyr gwasanaeth eraill ond sydd angen elfen bellach o gyfeillgarwch a chefnogaeth;
  • unigolion preifat ag incwm ond sydd angen ein gwasanaethau er nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu cyfeirio trwy’r gwasanaethau cymdeithasol;
  • unigolion sydd wedi’u hynysu yn sgil eu dyletswyddau fel y prif ofalwr i’w priod neu berthynas deuluol. Gellir cynnig cefnogaeth i leddfu’u cyfrifoldebau am gyfnodau penodol drwy gydol yr wythnos.
 
Gellir cyflawni llawer o fuddion a chanlyniadau cadarnhaol drwy’r gwasanaeth hwn, sy’n cynnwys:
 
  • Cyfranogi’n weithredol a rhyngweithio’n gymdeithasol yn y gymuned trwy ymgysylltu mwy. Mae cynyddu cyfleoedd a dewisiadau’r defnyddwyr gwasanaeth yn magu hyder a llesiant ac yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i bobl.
  • Mae ein gwasanaeth cymorth cymunedol yn helpu i wella llesiant emosiynol trwy gwmnïaeth - gan gynnig clust i wrando yn rheolaidd a’r gallu i gynllunio teithiau a thripiau i ffwrdd o’r cartref.
  • Gwell Ansawdd Bywyd trwy alluogi pobl i gadw mewn cysylltiad â’r byd y tu allan i’w cartref, gan osgoi dirywiad mewn iechyd seicolegol a chorfforol a datblygu sgiliau a gweithgareddau newydd.
  • Sgiliau Byw’n Annibynnol trwy weithgareddau megis siopa, cynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol trwy goginio, ymarfer sgiliau cartref, bwyta’n iach, cyllidebu ac ati. Mae hyn yn galluogi pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi a chynnal eu hannibyniaeth cyhyd ag y bo modd.

 

Mae ein Tîm Cymorth Cymunedol i gyd wedi’u gwirio gan y DBS ac wedi ennill cymhwyster Lefel 3 y Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae ein Rheolwyr wedi ennill statws Rheolwyr Cofrestredig a chymhwyster Lefel 5 y Diploma mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r holl staff yn weithwyr cymorth profiadol, wedi’u hyfforddi ar draws sbectrwm eang o anghenion ac arbenigeddau er mwyn iddynt allu cefnogi ystod helaeth o ddefnyddwyr gwasanaeth yn effeithiol.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad neu os ydych am gysylltu â ni am fanylion, mae croeso ichi ddefnyddio’r ffurflen ar dudalen y Gwasanaethau Cymorth neu ar y dudalen Cysylltu â Ni

 
  
cyCymraeg