Search
Close this search box.

Cwyno, Canmol ac Awgrymu

Mae barn ein defnyddwyr gwasanaeth yn bwysig i ni ac yn helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau yn diwallu anghenion pobl. Os ydych chi’n anhapus ag unrhyw un o’n gwasanaethau, mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod i ni

Canmol a/neu Awgrymu 

Gall unrhyw un sy’n derbyn ein gwasanaethau, neu ffrindiau a theulu’r defnyddiwr, gynnig awgrym a/neu roi canmoliaeth. Gellir cynnig awgrym neu roi canmoliaeth trwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar waelod y dudalen hon neu gallwch anfon e-bost i’r Gymdeithas Gofal yn [email protected] [email protected]

Cwyno

Ein nod yw delio â chwynion yn gyflym, yn effeithiol ac mewn ffordd deg a gonest. Rydyn ni’n cymryd pob cwyn o ddifrif ac yn defnyddio’r wybodaeth werthfawr a ddaw o’r ymchwiliad i’n helpu i wella’r gwasanaethau a ddarparwn. Rydyn ni’n trin pob cwyn yn gyfrinachol.

    • Pwy All Gwyno?

          Gall unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan y ffordd y mae’r Gymdeithas Gofal yn darparu gwasanaethau wneud cwyn, neu fe all cynrychiolydd gwyno ar eu rhan                      

    • Sut Mae Cwyno?

          Gallwch gwyno

      • ar y ffurflen “cysylltu â ni” ar waelod y dudalen hon
      • yn bersonol
      • trwy e-bost
      • trwy lythyr
      • trwy eiriolwr neu gynrychiolydd

          Byddwn yn gwneud cofnod ysgrifenedig ac yn darparu copi o’r gŵyn cyn pen 5 niwrnod gwaith

    • Proses

Mae’r Rheolwr Gwasanaethau yn gyfrifol am ddelio â chwynion a chan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gellir eu trosglwyddo i reolwr mwy priodol ar gyfer yr ymchwiliad; er enghraifft, i reolwr adrannol sy’n gyfrifol am faes gwasanaeth penodol.

Byddwn yn cydnabod cwyn o fewn 5 niwrnod gwaith ac yn rhoi enw a manylion cyswllt y sawl sy’n ymchwilio iddi.                          

Byddwn yn eich hysbysu am hynt yr ymchwiliad.                                                                                               

Ein nod yw gorffen pob cwyn o fewn 20 niwrnod gwaith oni bai ein bod yn cytuno ar raddfa amser wahanol gyda chi.

Ar ôl inni orffen yr ymchwiliad, byddwn yn trefnu bod y canlyniad yn cael ei drafod, ac yn ysgrifennu atoch gyda:

      • Manylion y canfyddiadau
      • Unrhyw gamau yr ydym wedi’u cymryd
      • Ein cynigion i ddatrys eich cwyn

                                                                                                                                                                                                                                                                                           Os nad ydych yn hapus â chanlyniad cychwynnol y gŵyn, gallwch apelio i Gyfarwyddwr Gweithredol y Gymdeithas Gofal.

cyCymraeg