Search
Close this search box.

 

Gwasanaethau Cefnogi Tenantiaeth 

Mae’r Gymdeithas Gofal yn darparu cefnogaeth sy’n gysylltiedig â thai a thenantiaeth ledled Ceredigion er mwyn galluogi pobl 16 oed sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, i ennill y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gynnal tenantiaeth. Ariennir y gwasanaeth gan y Rhaglen Cefnogi Pobl a’i nod yw helpu pobl i fyw’n llwyddiannus ac yn annibynnol mewn llety sefydlog o fewn eu cymuned.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

  • Pobl sengl
  • Teuluoedd a’u plant dibynnol
  • Pobl mewn llety dros dro
  • Pobl ag anableddau corfforol
  • Pobl ifanc sy’n gadael y system ofal

Sut ydyn ni’n cefnogi pobl?

Gallwn gynnig cefnogaeth un i un naill ai yn ein swyddfeydd ledled y Sir neu yng nghartref y defnyddiwr gwasanaeth. Bydd pawb a gefnogir yn eu tenantiaeth gan y Gymdeithas Gofal, yn cael Gweithiwr Cymorth ymroddedig a fydd yn llunio Cynllun Cymorth manwl gyda’r defnyddiwr gwasanaeth. Nod ein cefnogaeth yw galluogi a grymuso pobl i ymdopi â phroblemau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Y mathau o gefnogaeth a ddarperir

  • Cefnogaeth i gynnal eu tenantiaeth yn annibynnol a/neu gyngor ar ailsefydlu wrth symud i lety mwy priodol, gan gynnwys cysylltu â landlordiaid, cynnal ymweliadau eiddo, gwneud ceisiadau am dai cymdeithasol a delio â’r sector rhentu preifat;
  • Anogaeth a chefnogaeth i gyflawni’u rhwymedigaethau o dan eu cytundebau tenantiaeth;
  • Hawlio buddion a chyllid priodol i sicrhau’r incwm mwyaf posibl;
  • Sicrhau cysylltiad â chyfleustodau a chyswllt â chwmnïau cyfleustodau;
  • Trefnu atgyweiriadau neu welliannau i’w cartrefi;
  • Cefnogaeth â pherthnasoedd a theulu, cynnal rhwydweithiau cymorth a chysylltiadau da â chymdogion;
  • Datrys/atal problemau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol;
  • Cefnogaeth i alluogi a grymuso defnyddwyr gwasanaeth i ymdopi â thasgau byw bob dydd, rhyngweithio’n gymdeithasol, a delio â’u hiechyd a’u llesiant;
  • Cymorth i ddatblygu sgiliau bywyd a fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaeth ymdopi’n well â thasgau bywyd bob dydd;
  • Datrys neu atal dyledion gan gynnwys cyrchu cyngor arbenigol;
  • Canllawiau, cyngor a chefnogaeth gyffredinol i alluogi pobl i wneud y mwyaf o’u potensial a gwella’u hyder a’u hunan-barch;
  • Hyrwyddo cyfranogiad ym mywyd y gymuned leol, fel y gall pobl gael yr ymdeimlad o berthyn i’w cymunedau;
  • Cefnogaeth i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi;
  • Hyrwyddo sgiliau magu plant da;
  • Materion yn ymwneud ag eiriolaeth ac amddiffyn plant;
  • Delio â gwasanaethau statudol a gwirfoddol;
  • Canfod opsiynau trafnidiaeth a fydd yn galluogi defnyddwyr gwasanaeth i gyrchu gwasanaethau yn annibynnol;
  • Helpu i oresgyn arwahanrwydd cymdeithasol ac amddifadedd;
  • Cofrestru â gwasanaethau megis meddygon teulu a deintyddion a’u cyfeirio, os oes angen, at asiantaethau arbenigol eraill;
  • Mynediad at gyflogaeth, gan gynnwys cyfleoedd i hyfforddi, dysgu a gwirfoddoli.

 

Os hoffech chi gael cefnogaeth, mae croeso ichi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r blwch cyswllt sydd i’w weld isod neu ar y dudalen ‘Cysylltu â Ni‘. Gallwch hefyd alw heibio ein swyddfeydd yn 21 Ffordd y Môr, Aberystwyth, neu Greystones, Stryd y Priordy, Aberteifi, yn ogystal â chysylltu â’r Tîm Cefnogi Pobl yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd angen ein cefnogaeth, gallwch hefyd ymholi ar eu rhan yn yr un modd.

cyCymraeg