Search
Close this search box.

Trosolwg o Wasanaethau Cefnogi’r Gymdeithas Gofal

 

Gwasanaethau Cefnogi Tenantiaeth

Mae’r Gymdeithas Gofal yn darparu cefnogaeth ar gyfer tai a thenantiaeth ledled Ceredigion er mwyn galluogi pobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, i ennill y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gynnal tenantiaeth. Ariennir y gwasanaeth gan y Rhaglen Cefnogi Pobl a’i nod yw helpu pobl i fyw’n llwyddiannus ac yn annibynnol mewn llety sefydlog o fewn eu cymuned.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

    1. Pobl sengl
    2. Teuluoedd a’u plant dibynnol
    3. Pobl mewn llety dros dro
    4. Pobl ag anableddau corfforol
    5. Pobl ifanc sy’n gadael y system ofal
 

Sut ydyn ni’n Cefnogi Pobl?

Rydyn ni’n darparu cymorth un-i-un gyda Gweithiwr Cymorth Penodedig naill ai yn ein swyddfeydd ar draws Ceredigion neu yng nghartref y defnyddiwr gwasanaeth.  

Ein nod yw:

    1. galluogi a grymuso pobl i ymdopi â phroblemau sy’n effeithio ar eu bywydau;
    2. cefnogi pobl i gynnal eu tenantiaethau’n annibynnol a/neu gynnig cyngor ailsefydlu er mwyn iddynt symud i lety mwy priodol, gan gynnwys cysylltu â landlordiaid, trefnu ymweliadau, helpu gyda cheisiadau am dai cymdeithasol, ac ati;
    3. cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu sgiliau a fydd yn eu helpu i ymdopi’n well â thasgau bywyd bob dydd;
    4. darparu arweiniad, cyngor a chymorth cyffredinol i wella hyder a hunan-barch;
    5. helpu a chynghori pobl ynglŷn â rheoli cyllidebau a dyledion, gyda’r nod o wneud y mwyaf o incwm a budd-daliadau lles;
    6. cefnogi pobl i sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi;
    7. darparu cymorth i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli;
    8. darparu cymorth a chefnogaeth i bobl yn eu perthnasoedd a hybu sgiliau rhianta da.

Referrals can be self-referrals using the Care Society contact details below.                                                                                                                                            You can also call in at our offices in Aberystwyth or Cardigan as well as via the Supporting People Team in Ceredigion Council Social Services.                  If you know someone who you think needs our support you can also enquire about getting support for them.

 

Gwasanaeth Cymorth Mewn Argyfwng

Yma yn y Gymdeithas Gofal, rydyn ni’n canolbwyntio ar helpu pobl i aros yn eu cartrefi, beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Mae gennym Weithiwr Cymorth Tai Penodol ar gyfer Gosodiadau Cymdeithasol yn y brif swyddfa yn Aberystwyth sy’n cynnig cymorth mewn argyfwng ar lefel un-i-un bryd bynnag y bo’i angen. Gallwn gynnig cymorth gydag ôl-ddyledion, budd-daliadau, asesiadau, tai, lles, trais yn y cartref, achosion o droi allan, blaendaliadau a rhagdaliadau rhent, nwyddau cartref ac ati, neu efallai mai dim ond ychydig o help sydd ei angen arnoch i symud i’r cyfeiriad cywir.

Os oes angen ein help arnoch, mae croeso ichi alw heibio’r swyddfa yn 21 Ffordd y Môr neu ffonio 07790 988599.

Mae Cymorth Mewn Argyfwng ar gael i denantiaid presennol y Gymdeithas Gofal ac i aelodau’r cyhoedd.

 

Pecynnau Gofal Pwrpasol

Trwy Bartneriaeth Arloesedd y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae’r Gymdeithas Gofal yn darparu Pecynnau Gofal Pwrpasol i unigolion ar draws Ceredigion. Diben y cymorth hwn yw gwella deilliannau a llesiant pobl ag anghenion gofal a chymorth. Mae’r contractau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer gofynion unigol pob person. Mae’r bobl sy’n cael eu cefnogi drwy’r contractau hyn yn fregus oherwydd amgylchiadau neu amodau ac yn dod o fewn y categorïau isod:

    1. anableddau dysgu
    2. awtistiaeth;
    3. problemau iechyd meddwl;
    4. materion yn ymwneud â’r corff a symudedd;
    5. henaint a llesgedd.
 
Mae llawer o fanteision i’w hennill drwy’r math hwn o gymorth gan gynnwys mwy o ymgysylltu a rhyngweithio cymdeithasol yn y gymuned, gwell ansawdd bywyd a ddaw yn sgil mwy o gyfleoedd a dewisiadau, gwell llesiant emosiynol, a’r gallu i barhau i fyw’n annibynnol.
 
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y gwasanaeth hwn neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y dudalen Pecynnau Gofal Pwrpasol o dan Gwasanaethau Cymorth. Os oes gennych chi ymholiad penodol, yna defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

cyCymraeg