Prosiect Tai yn Gyntaf i Ieuenctid
Mae Adeilad y Prosiect Tai yn Gyntaf i Ieuenctid (HFFY) yn cynnwys 5 fflat hunangynhwysol gyda dodrefn a chegin, ardal swyddfa fawr, ac ystafell gymunedol â chyfleusterau golchi. Mae’r holl le yn cael ei fonitro gan deledu cylch cyfyng.
Mae pob fflat unigol wedi’i dodrefnu a’i chyfarparu i lefel uchel, yn unol ag athroniaeth Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE). Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn sy’n cyrchu’r prosiect a’r fflatiau yn cael eu trin ag urddas a pharch. Dangoswyd hyn, yn rhannol, gan safon uchel y lletyau a ddarperir ar eu cyfer. Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i leihau’r rhesymau pam y gallai rhai pobl ifanc deimlo dan fygythiad, yn ansefydlog, heb ofal, neu’n ddigroeso – rhesymau sy’n aml iawn yn anweledig. Mae hyn eisoes wedi cael effaith amlwg ar iechyd meddwl a llesiant cyffredinol ein preswylwyr.
Rydyn ni wedi cynyddu ein darpariaeth staff a’n hargaeledd gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau. Mae hyn yn cyd-fynd ag athroniaeth PIE sy’n mynd ati i ymgysylltu â phobl ifanc, yn hytrach nac aros am ymgysylltiad – sefyllfa sydd mor aml yn dieithrio pobl ifanc ac yn eu hatal rhag cyrchu’r union gymorth sydd ei angen arnynt.
Fe wnaethon ni ymchwilio i Brosiectau HFFY tebyg iawn sy’n gweithredu ledled y DU, yn ogystal ag yn y Ffindir a Chanada. Gwnaed ymchwil i lunio gweithdrefn unigryw ar gyfer asesu dyraniadau aml-asiantaeth y Prosiect HFFY. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y rhai sydd â’r risg uchaf o gael eu gwahardd, o fod yn ddigartref, o ddioddef llesiant gwael ac yn debygol iawn o droseddu/aildroseddu. Mae ein cleientiaid yn sgorio’n uchel ar fynegai CHAOS ac wedi wynebu sawl Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs).
Ar ôl eu derbyn i’r Prosiect HFFY, gofynnir i bob Person Ifanc pa gymorth y maent wedi’i gael yn hanesyddol, neu y maent yn ei gyrchu ar hyn o bryd. Trwy astudio’u nodiadau achos yn ofalus, gallwn ni ganfod pa gymorth ychwanegol neu gyflenwol y gellir ei gynnig iddynt. Yna, trwy drafodaeth, fe gynigir opsiynau iddynt yn sensitif gan ddefnyddio methodolegau allgymorth pendant. Mae’r gwasanaeth cymorth a gynigwn yn un cofleidliol ac amlasiantaethol.
Mae’r prosiect Tai yn Gyntaf i Ieuenctid yn fenter gydweithredol i raddau helaeth ac yn darparu llwybrau atgyfeirio ar gyfer sawl adran o fewn awdurdodau lleol, yn enwedig tai, troseddau ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol (gadael gofal) ac ati.
Mae hyn yn ymateb cadarnhaol i ddigartrefedd ymhlith yr ifanc – mae’n helpu nhw i osgoi mynd i ddigartrefedd eto, ac yn eu cefnogi i adael y sefyllfa heb orfod dychwelyd.
Mae’r Prosiect yn cynnig darpariaeth tai ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed sydd:
- yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref;
- yn ymadawyr gofal;
- yn bobl ifanc sydd wedi bod trwy’r system cyfiawnder ieuenctid
- yn bobl ifanc ag anableddau dysgu ysgafn i gymedrol (ond yn syrthio islaw’r trothwy ar gyfer pecynnau gofal pwrpasol).
Caiff llwybrau atgyfeirio eraill eu hystyried a’u defnyddio hefyd.
