Beth yw Rhentu Doeth Cymru?

Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth a gynhelir gan Gyngor Caerdydd sy’n sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Tai (Cymru) 2014, ac mae’n gweithredu mewn partneriaeth â 22 Awdurdod Lleol. Dynododd Gweinidogion Cymru Gyngor Caerdydd fel yr Awdurdod Trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan yn 2015.

Yn ei rôl fel Awdurdod Trwyddedu o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae’n rhaid i wasanaeth Rhentu Doeth Cymru brosesu cofrestriadau’r landlordiaid a dyfarnu trwyddedau i landlordiaid ac asiantau y mae gofyn iddynt gydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014.

Dewisodd Llywodraeth Cymru un Cyngor i weithredu fel gweinyddwr ar gyfer Cymru gyfan i’w gwneud hi’n haws i landlordiaid, asiantau a thenantiaid gael mynediad i’r gwasanaeth. Mae’r gofrestr ganolog yn golygu bod landlordiaid ond yn delio ag un awdurdod trwyddedu yn hytrach na 22 o awdurdodau lleol ar wahân; dim ond un cofrestriad sydd ei angen fesul trefniant landlord ac ar gyfer y rheiny sy’n gosod ac yn rheoli eiddo mae un drwydded yn ddigon i weithredu ledled Cymru.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i gyflawni’u swyddogaethau o dan y Ddeddf. Mewn rhai achosion, yr Awdurdod Lleol fydd yn arwain y camau gorfodi yn erbyn y landlordiaid a’r asiantau hynny nad ydynt yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol, ar ran yr Awdurdod Trwyddedu.

Er mwyn cynnig gwasanaeth cyflawn i’r sector rhentu preifat yng Nghymru, mae gan Rhentu Doeth Cymru wybodaeth sydd ar gael i gynorthwyo tenantiaid sy’n byw yn y sector rhentu preifat, neu’n ystyried symud i mewn iddo. Mae hyn yn cynnwys Canllaw Tenantiaid, sydd i’w weld ar y wefan Rhentu Doeth Cymru

cyCymraeg