Guy Evans
CYFARWYDDWR GWEITHREDOL / EXECUTIVE DIRECTOR
Guy Evans
Cyn ymuno â’r Gymdeithas Gofal yn 2000, roedd Guy wedi cael profiad o weithio yn y Sector Preifat ac o fewn Adran Digartrefedd Cyngor Sir Ceredigion. Mae Guy wedi bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol y Gymdeithas Gofal oddi ar 2010. Mae Guy yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn meddu ar dros 20 mlynedd o brofiad ym maes Tai a Chymorth. Mae gan Guy MSc mewn Rheolaeth (arloesedd a chreadigedd mewn mentrau cymdeithasol) ac mae’n Ymddiriedolwr Tir Coed
Jeremy Brown
DIRPRWY GYFARWYDDWR/ DEPUTY DIRECTOR
Jeremy Brown
Mae Jeremy yn Uwch Reolwr yn y Gymdeithas Gofal gyda dros 12 mlynedd o brofiad o reoli’r Tîm Cefnogi Tenantiaeth, y Lloches Nos, Prosiectau Llety Dros Dro a Phrosiectau Digartrefedd Ieuenctid. Wedi’i fagu yn Aberystwyth, astudiodd y Gyfraith ym Mhrifysgol Sheffield ac yna yng Ngholeg y Gyfraith Guildford cyn dychwelyd “dros dro” i Aberystwyth a rheoli siop lyfrau prifysgol am 20 mlynedd a mwy! Mae gan Jeremy Ddiploma Lefel 5 mewn Rheoli ac Arwain Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae ganddo brofiad busnes helaeth yn y sector preifat. Pan nad yw’n gwneud hyn, mae wrth ei fodd yn crwydro cefn gwlad ac yn dringo mynyddoedd.
Bridget Campbell
RHEOLWR TÎM CYMORTH (ABERTEIFI) / SUPPORT TEAM MANAGER (CARDIGAN)
Bridget Campbell
Dechreuodd Bridget weithio i’r Gymdeithas Gofal yn 2006 gan helpu teuluoedd i reoli a chynnal eu tenantiaethau. Daeth yn Gydlynydd Cymorth i Deuluoedd ac yn ddiweddar, fe gwblhaodd ei Diploma Lefel 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Wedi’i lleoli yn Aberteifi, mae Bridget yn rheoli’r Tîm Cymorth ac Allgymorth Cymunedol yn Ne Ceredigion, gan gefnogi pobl sengl, teuluoedd, pobl ddigartref a phobl anabl yn ogystal â goruchwylio’r Prosiect Pobl Ifanc yn Aberteifi. Mae hi hefyd yn rheoli Pecynnau Gofal Pwrpasol y Gymdeithas Gofal yn Ne Ceredigion. Mae Bridget yn cael ymdeimlad enfawr o falchder pan fydd hi’n cynnal adolygiad o ddefnyddiwr y gwasanaeth ac yn gweld faint y mae wedi’i gyflawni gyda chymorth a chefnogaeth y Gymdeithas Gofal.
Alun Evans
RHEOLWR TÎM CYMORTH (ABERYSTWYTH) / SUPPORT TEAM MANAGER (ABERYSTWYTH)
Alun Evans
Mae Alun wedi bod yn gweithio gyda’r Gymdeithas Gofal am dros 10 mlynedd fel Aelod o’r Tîm Cymorth. Mae bellach yn Rheolwr Tîm Cymorth ar gyfer Gogledd Ceredigion, wedi’i leoli yn Aberystwyth. Cyn ymuno â’r math hwn o waith, roedd yn adeiladu llwybrau beicio ac yn adnewyddu eiddo! Er iddo ddianc ambell dro, mae wedi treulio rhan helaethaf o’i fagwraeth a’i fywyd yn Aberystwyth a’r cyffiniau. Gyda’r arfordir a’r bryniau, dyma’r lle perffaith i Alun fwynhau ei ddiddordebau awyr agored fel caiacio, beicio a cherdded.
Dawn Toland
RHEOLWR SIOP ELUSEN A SIOP SYMUDEDD / CHARITY SHOP AND SHOPMOBILITY MANAGER
Dawn Toland
Symudodd Dawn i Aberystwyth fel myfyrwraig gan ymgartrefu yma ar ôl syrthio mewn cariad â’r dref a’i phobl. Dechreuodd ymwneud â’r Gymdeithas Gofal am y tro cyntaf yn 2015 pan gymerodd reolaeth o’r Siop Elusen. Un o’i thasgau cyntaf oedd helpu i sefydlu Cynllun Symudedd newydd ac ers hynny mae wedi bod yn gyfrifol am redeg y siop a’r gwasanaeth symudedd yn Stryd y Ffynnon Haearn. Mae Dawn yn mwynhau natur amrywiol ei swydd ac wrth ei bodd yn gweld y gwahanol roddion sy’n dod drwy’r drws ac yn hoff iawn o weithio gyda’i thîm gwych o wirfoddolwyr.
Gary Taverner
RHEOLWR LLETY DROS DRO / TEMPORARY ACCOMMODATIONS MANAGER
Gary Taverner
Ymunodd Gary â’r Gymdeithas Gofal yn 2019 ac ef yw’r Rheolwr Llety Dros Dro yn ogystal â Rheolwr Prosiect Tai yn Gyntaf i Ieuenctid – Yr Albion. Mae gan Gary 40 mlynedd o brofiad mewn prosiectau ym maes Ieuenctid ac Oedolion Ifanc, yn bennaf o fewn Trydydd Sector y DU ac Elusennau Rhyngwladol. Mae ganddo gefndir mewn Peirianneg Dechnegol a Mecanyddol, Hyfforddiant, Gweithio mewn Carchardai, Arweinyddiaeth a Rheolaeth, yn ogystal ag arloesi mewn Prosiectau Dyngarol a Datblygu ar draws 3 Chyfandir. Ar ôl byw neu weithio mewn dros 50 o wledydd, mae Gary bellach wedi gosod ei wreiddiau yng Ngheredigion ac yn ei amser rhydd mae’n mwynhau DIY, crwydro’r bryniau a’r arfordir gyda’i gi, a samplu cymaint o hufen iâ lleol â phosibl.
