Prosiect Pobl Ifanc

Wedi’i leoli yn Aberteifi mewn cartref pedair ystafell wely, mae’r PPI yn darparu fflat “symud ymlaen” ar gyfer 2 berson ifanc yn ogystal ag opsiynau “symud ymlaen” eraill yn y sector rhentu preifat. Amcanion y Prosiect Pobl Ifanc yw:

  • darparu amgylchedd diogel a chyfeillgar gyda chyfuniad o lety addas, cefnogaeth a mynediad at hyfforddiant, addysg a chyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc 16-25 oed;
  • cefnogi pobl ifanc i gyflawni’u nodau a’u dyheadau cyraeddadwy fel y’u hamlinellir yn y broses cynllunio cymorth;
  • rhoi’r sgiliau i bobl ifanc fyw’n annibynnol yn y dyfodol;
  • osgoi creu tenantiaethau sy’n anghynaladwy.

Rhoi cyfle cyfartal wrth ddarparu ei wasanaethau llety a chymorth a chymryd camau cadarnhaol yn erbyn gwahaniaethu Mae’r Gymdeithas Gofal yn defnyddio dull cyfannol wrth gefnogi pobl ifanc drwy’r prosiect hwn. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd datblygu mewnol ac allanol, gan gyrchu gwasanaethau arbenigol a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel y Tîm Gofal Gadael, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, yr Adran Tai, Coleg Ceredigion, Ymddiriedolaeth y Tywysog ac ati. 

Ystyrir bod person yn gymwys ar gyfer y prosiect

  • os yw’n sengl a rhwng 16 a 25 oed
  • os yw’n agored i niwed, angen tŷ, heb gartref diogel neu sefydlog, neu’n byw mewn llety dros dro ac ansicr neu lety argyfwng a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion o dan ddeddfwriaeth ddigartrefedd;
  • os yw’n medru dangos ei fod yn gallu dod i ben â rhwymedigaethau rhent ei breswyliad;
  • os yw’n 16/17 oed ac yn blentyn mewn angen sy’n teilyngu llety o dan adran 17 neu adran 20 o Ddeddf Plant 1989;
  • os yw’n cael ei gymell i geisio/mynychu hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth
  • os yw’n barod i ymgysylltu â’r gefnogaeth a’r Cynllun Cymorth y cytunwyd arno;
  • os yw’n gallu byw o fewn amodau Cytundeb Trwydded ac Amodau Meddiannaeth y Gymdeithas Gofal.

                                                                                                                                                                                                                                                                                          Mae gwasanaethau llety a chymorth eraill y PPI yn cynnwys:

  • Gweithiwr Cymorth Dynodedig ar gyfer y preswylwyr;
  • cefnogaeth i gyrchu gwasanaethau arbenigol, h.y. Cwnsela, Asiantaethau Camddefnyddio Sylweddau ac ati;
  • cyngor ac arweiniad, mynediad at hyfforddiant, addysg a chyfleoedd cyflogaeth;
  • cyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau trefnedig;
  • llety wedi’i ddodrefnu gyda chegin a rennir;
  • amgylchedd diogel - wedi’i staffio am 4 awr y dydd ac am 365 diwrnod o’r flwyddyn, gyda theledu cylch cyfyng sy’n cael ei fonitro ynghyd â gwasanaeth “ar alwad”;
  • mynediad a chymorth i symud ymlaen trwy Dîm Gosod Tai Cymdeithasol y Gymdeithas Gofal.

                                                                                                                                                                                                                                                                              Mae’r amseroedd aros yn dibynnu ar lefel y lleoedd gwag sydd ar gael. Bob tro y bydd lle gwag yn ymddangos, bydd y Panel Dyrannu yn ystyried y rhestr aros, addasrwydd y darpar ddefnyddwyr gwasanaeth, “cyfansoddiad” y tŷ, a ffactorau perthnasol eraill.

cyCymraeg