Gwasanaethau Tenantiaid
Wrth rentu tŷ neu ystafell, mae’n bwysig eich bod yn teimlo’n gyfforddus yn yr eiddo newydd. Er mwyn teimlo fel hynny, mae angen ichi wybod gan bwy yr ydych yn rhentu, a bod yn hyderus yn eich landlord ac yn sicr fod yr eiddo yn ddiogel ac yn gadarn.
Mae Cynllun Gosod Cymdeithasol y Gymdeithas Gofal yn hapus i’ch helpu chi ddod o hyd i’r math o eiddo yr ydych yn chwilio amdano, a bydd yn eich cefnogi gyda’ch holl anghenion sy’n ymwneud â thenantiaeth. Mae ein holl gytundebau tenantiaeth yn ymgorffori Adroddiad Manwl ar Gynnwys a Chyflwr yr Eiddo. Mae gennych hefyd fynediad at ystod o wasanaethau’r Gymdeithas Gofal - o weithiwyr sy’n cynnig cymorth tenantiaeth i’r Cynllun Bond, ac ati.
Cynhelir pob ymweliad yng ngŵydd aelod o Dîm Gosodiadau Cymdeithasol y Gymdeithas Gofal a all eich helpu chi gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am yr eiddo neu’r broses denantiaeth.
Cymerwch olwg ar yr eiddo sydd ar gael naill ai yn Aberystwyth, Gogledd a Chanol y Sir neu Aberteifi, De a Chanol y Sir.
Os oes gennych eiddo penodol mewn golwg neu os hoffech chi gofrestru’ch diddordeb, llenwch y ffurflen ymholi ar waelod y dudalen hon a byddwn yn cysylltu â chi.
Unwaith y bydd y wybodaeth hon gennym, gallwn eich paru chi ar unwaith ag unrhyw eiddo addas sydd gennym ar hyn o bryd neu pan fydd eiddo addas ar gael yn y dyfodol.
Os hoffech chi sgwrsio am denantiaeth bosibl, mae croeso ichi gysylltu â ni, neu galwch heibio un o’n swyddfeydd i drafod eich anghenion a’ch gofynion.
North County Office at 21 Terrace Road, Aberystwyth SY23 1NP – telephone 0300 140 0025
South County Office at Greystones, Priory Street, Cardigan, SA43 1BZ – telephone 0300 140 0025